GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG
|
|
75 - Rheoliadau’r Amgylchedd a Bywyd Gwyllt (Swyddogaethau Deddfwriaethol) (Ymadael â’r UE) 2019 Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 8 Ionawr 2019 |
|
Sifftio |
|
A fydd angen sifftio yn Senedd y DU? |
Na fydd |
Gweithdrefn: |
Cadarnhaol |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Ty'r Cyffredin |
Amh |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-deddfwriaeth Ty'r Arglwyddi |
21/01/2019 |
Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU |
Amh |
Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: |
Papur 9 |
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol) |
Dim angen |
Gweithdrefn graffu |
|
Canlyniad y broses sifftio |
Amh |
Y weithdrefn |
Cadarnhaol |
Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol |
Ddim yn hysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ty'r Cyffredin |
Ddim yn hysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-deddfwriaeth Ty'r Arglwyddi |
Ddim yn hysbys |
Sylwadau
Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a pharagraff 21(b) o Atodlen 7 i'r Ddeddf.
Mae'r Rheoliadau hyn yn trosglwyddo swyddogaethau deddfwriaethol o Gomisiwn yr UE i awdurdodau cyhoeddus yn y DU. Mae'r swyddogaethau sy'n ymwneud â meysydd polisi datganoledig wedi'u nodi ar hyn o bryd yn Rheoliadau'r UE (ac un Gyfarwyddeb yr UE) sy'n cwmpasu llygryddion organig parhaus, pren, Cofrestr Ewropeaidd ynghylch Gollwng a Throsglwyddo Llygryddion, mercwri ac allyriadau diwydiannol. O safbwynt meysydd polisi datganoledig yng Nghymru, rhoddir rhai swyddogaethau i Weinidogion Cymru.
Mae’r Cynghorwyr Cyfreithiol yn gwneud y sylwadau a ganlyn mewn perthynas â datganiad Llywodraeth Cymru dyddiedig 10 Rhagfyr 2018 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn: 1. Mae Protocol Nagoya yn ymwneud â mynediad at adnoddau genetig (Rheoliad 511/2014 yr UE). Dywed Llywodraeth Cymru nad yw'n ymarferol bosibl i Weinidogion Cymru arfer swyddogaethau sy'n ymwneud â Phrotocol Nagoya yn annibynnol ar Lywodraeth y DU. Felly, rhoddir swyddogaethau ar yr Ysgrifennydd Gwladol yn unig. Nid yw Llywodraeth Cymru yn cynnig esboniad dros hyn. Rydym yn gwahodd Llywodraeth Cymru i roi rhagor o fanylion. 2. O ran gweddill Rheoliadau'r UE (a'r un Gyfarwyddeb) sy'n ymwneud â meysydd polisi datganoledig, sef- · Llygryddion Organig Parhaus (Rheoliad 850/2004 y CE); · Cofrestr Ewropeaidd ynghylch Gollwng a Throsglwyddo Llygryddion (Rheoliad 166/2006 y CE); · Mercwri (Rheoliad 2017/852 yr UE); ac · Allyriadau Diwydiannol (Cyfarwyddeb 2010/75 yr UE (a ddisgrifir yn natganiad Llywodraeth Cymru fel "mabwysiadu casgliadau BAT")) dywed Llywodraeth Cymru nad oes "dim effaith ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad". Fodd bynnag, nid yw'n glir a yw'r honiad hwn yn gywir a gwahoddir esboniad pellach. Mae ein rhesymu fel a ganlyn. 3. Pan roddir swyddogaeth i'r Ysgrifennydd Gwladol mewn maes a ddaw o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gallai hyn gael yr effaith o gyfyngu ar allu'r Cynulliad i ddeddfu yn y maes hwn. 4. Ni all Deddf y Cynulliad ddileu neu addasu swyddogaeth Gweinidog y Goron sy'n ymwneud (ymhlith pethau eraill) â rheoli llygredd adnoddau dŵr oni bai bod y Gweinidog yn cydsynio (gweler paragraff 11 (1) (c) o Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006). 5. Os yw'r Rheoliadau hyn yn rhoi swyddogaethau i'r Ysgrifennydd Gwladol sy'n ymwneud â rheoli llygredd o'r fath, yna ni fydd gan y Cynulliad gymhwysedd i gael gwared â'r swyddogaeth honno heb gydsyniad Llywodraeth y DU. Mae hyn er gwaethaf y ffaith y bydd y swyddogaeth yn gweithredu mewn maes datganoledig. 6. Rydym yn gofyn am fanylion pellach gan Lywodraeth Cymru ynghylch a oes unrhyw rai o'r swyddogaethau a roddir i'r Ysgrifennydd Gwladol yn ymwneud â rheoli llygredd adnoddau dŵr (neu unrhyw fater arall a restrir ym mharagraff 11 (1) o Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006). Heb ragor o fanylion, ni allwn gadarnhau cywirdeb honiad Llywodraeth Cymru nad oes unrhyw effaith ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad. 7. Yn ogystal, mae gwall bach iawn ym mharagraff 10 o ddatganiad Llywodraeth Cymru: dylai ddarllen Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 338/97 (nid 338/1997). 8. Ar wahân i'r pwyntiau a wneir uchod ym mharagraffau 3 - 6, mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith. Rydym yn fodlon bod y Rheoliadau yn gwneud cywiriadau yn hytrach na pholisi newydd mewn meysydd datganoledig. 9. I gadarnhau'r sefyllfa o ran pwyntiau 3-6 uchod, byddai angen y wybodaeth ychwanegol a ddisgrifir uchod arnom. 10. Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn ystyried bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
|